Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Gwasanaeth Cyfieithu Met Caerdydd

Gwasanaeth Cyfieithu Met Caerdydd

Mae'r Uned Gymraeg yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewnol effeithlon o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg, a gall drefnu gwasanaeth prawfddarllen ar gyfer dogfennau yn y Saesneg a’r Gymraeg. 
 
Defnyddio'r Gwasanaeth

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael mynediad i'r Gwasanaeth Cyfieithu, a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen:

https://tsr.cardiffmet.ac.uk/units/welsh/Pages/TS.aspx

Pan ewch i dudalen y Gwasanaeth Cyfieithu ar borth yr Uned Gymraeg, gofynnir i chi uwchlwytho'ch dogfen/dogfennau i'r systemau SharePoint. Nodwch fod yn rhaid uwchlwytho mwy nag un ddogfen fel ffeil Zip.
 
Ar ôl i chi uwchlwytho'ch ffeil, gofynnir i chi lenwi ffurflen fer ar-lein.
 
Gofynnir i chi greu enw ar gyfer eich 'prosiect' (h.y. y gwaith rydych chi'n ei anfon i'w gyfieithu/prawfddarllen), yn ogystal â'ch Ysgol/Uned a chyfanswm nifer y geiriau yn y ddogfen/dogfennau rydych chi wedi'u uwchlwytho.
 
Gofynnir i chi hefyd am ddyddiad dychwelyd 'dymunol'. Ceisiwch roi digon o amser inni brosesu'ch gwaith. Os yw'r dyddiad yn rhy gynnar, bydd y gweinyddwr yn ei newid.
 
Maint y Ddogfennaeth/Amser a Ddyrannwyd ar gyfer Cyfieithu

Maint (mewn geiriau) 
Amser
​O dan 200 o eiriau
​Yr un diwrnod*
​Dros 200/o dan 1000 
​Y diwrnod wedyn​
​Rhwng 1,000 a 2,500
​3 diwrnod
​Rhwng 2,500 a 4,000 
​5 diwrnod gwaith
​Dros 5,000    
​**

 
* Os derbynnir y gwaith cyn hanner dydd.
** Byddai angen trafod hyn yn uniongyrchol gyda'r Uned Gymraeg.
 
Os ydych chi'n cyflwyno gwaith sy'n cynnwys 'track changes' neu adrannau wedi'u hamlygu yn tynnu sylw at adran benodol o'r ddogfen, cyflwynwch ddwy ffeil, un yn lân, a'r llall yn marcio newidiadau ac ati er gwybodaeth.
 
Yna cliciwch ar 'OK' i'w hanfon i'r Gwasanaeth Cyfieithu. 

Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch cais, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau manylion y cais ac os yw'r dyddiad yr oeddech yn dymuno cael y gwaith yn ôl wedi'i gytuno â'r gwasanaeth, ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyswllt pellach gan y Gwasanaeth nes bydd eich gwaith yn cael ei ddychwelyd.
 
Byddwch yn gallu tracio cynnydd eich cyfieithiad trwy fewngofnodi i'r Porth Staff a mynd i dudalen y Gwasanaeth Cyfieithu ar safle'r Uned Gymraeg.